Dyletswyddau

Cyngor Cymuned Llanystumdwy

  • Y Cyngor llawn yn cyfarfod ar nos Iau gyntaf y mis am 7 o’r gloch yn Ystafell Myrddin, Neuadd Chwilog
  • Yn cael ei ariannu drwy drethiant y Praesept sydd yn cael ei dalu drwy fil y dreth i Gyngor Gwynedd.
  • Yn trefnu glanhau a chynnal llochesi bysiau yn y gymuned (9 lloches bws).
  • Yn cynnal a chadw llwybrau yn y gymuned. Peth o hwn yn cael ei ad dalu gan y Cyngor Sir.
  • Yn cynnal a chadw’r Cae Chwarae yn Llangybi.
  • Rhannu arian grant yn flynyddol i neuaddau/canolfannau/mynwentydd/mudiadau fel clybiau ieuenctid, fel arfer ym mis Chwefror. Trafodir yn ddibynnol ar dderbyn mantolen ariannol. Ceisiadau i’r Clerc erbyn Ionawr 20fed.
  • Yn cynnal a chadw ar dir y Cyngor fel bedd David Lloyd George yn Llanystumdwy ac ar Lain Bentref/Tir Comin Rhydybenllig.
  • Yn rhoi sylwadau ar geisiadau cynllunio yn y gymuned i’r Cyngor Sir.
  • Yn anfon cwynion am gyflwr ffyrdd, pontydd, goleuadau stryd, sbwriel, hawliau tramwy ac yn y blaen i adrannau perthnasol y Cyngor Sir.
  • Yn ymateb i gwynion trethdalwyr am wahanol gyrff cyhoeddus.
  • Gyda chynrychiolwyr ar fyrddau llywodraethwyr Ysgolion Llangybi, Chwilog a Llanystumdwy.
  • Gyda chynrychiolydd ar bwyllgor rheoli Elusendai Charles Jones, Llangybi.