Ein Bro

Ardal Cyngor Cymuned Llanystumdwy

Fel y gwelwch o’r map, mae ardal Cyngor Cymuned Llanystumdwy yn ran helaeth o fro Eifionydd sy’n ymestyn o’r rhan sydd ochr uchaf i’r rheilffordd yn Hafan y Môr, ymlaen am Froom Hall hyd at Rydygwystl ar hyd y briffordd heibio Castell Gwgan a Lodge Trallwyn cyn troi ar Bont Gydrhos draw am Fryn Mawr a Brychyni, Hendre Cennin a phen uchaf y Lôn Goed. Yna mae’n ymylu ar Gwindy Llecheiddior ac yna draw heibio Tŷ Cerrig a’r ddau Ystum Cegid, Gell a Phenybryn ar gyrion Cricieth, yna ar lwybr y rheilffordd ac i aber yr afon Dwyfor ac yna yn ôl am Hafan y Môr.

Mae pedair ward yn y gymuned; Ward Llangybi sy’n cynnwys ardaloedd Sardis, Pencaenewydd a Llangybi; Ward Llanarmon sy’n cynnwys ardaloedd Llanarmon, Chwilog ac Afonwen; Ward Rhoslan sy'n cynnwys ardal Rhoslan a draw i Ynys i ben uchaf y Lôn Goed a Ward Llanystumdwy sy’n cynnwys ardal Llanystumdwy ac ymlaen am Benygroes Llanystumdwy.

Map Cyngor Gwynedd


Yn yr adran yma

img

>> Ein Bro
>> Llwybrau
>> Diddordeb Hanesyddol