Cyngor Cymuned Llanystumdwy“Bro rhwng môr a mynydd”
R.Williams Parry CROESO i’r wefan lle cewch drosolwg ar waith y Cyngor ynghyd â gwybodaeth leol a mapiau o lwybrau cyhoeddus y cylch sydd dan ein gofal Mae dalgylch y Cyngor yn nhiriogaeth Eifionydd, ac yn glwstwr o bentrefi bach a chanolig eu maint sydd wedi eu lleoli mewn cefn gwlad prydferth a thlws. Yma mae’r iaith Gymraeg i’w chlywed yn fwrlwm ac mae cyfoeth o ddiwylliant Cymreig ymhobman.
|
Asgwrn cefn yr economi leol yw’r diwydiannau amaeth, bwyd a thwristiaeth ac mae’r tirwedd yn gymysgedd o dir glas, corsdir, rhosydd a choedwigaeth sy’n ymestyn o lannau ac aber yr afon Dwyfach i ben Garn Bentrych (748 troedfedd uwchlaw’r môr)
Hwyl ichi ar bori drwy’r safle.