Llwybrau
Cyngor Cymuned Llanystumdwy
Rhai o’r llwybrau poblogaidd yng nghymuned Llanystumdwy
1. | Y Lôn Goed. Mae’r llwybr yma yn cychwyn yn Afonwen a gellir ei ddilyn yr holl ffordd i Hendre Cennin. Mae’n enwog oherwydd y coed blannwyd y naill ochr iddo gan John Maughan sef stiward Ystâd Plas Hen/Talhenbont. Y syniad oedd bod y coed yn tynnu’r gwlybaniaeth o’r tir, oedd yn ei gwneud yn haws i ffermwyr y stâd allu cario calch o’r odyn yn Afonwen i’r gwahanol ffermydd ac felly’n codi ansawdd y tir. Cyf. Map. 4347 – 4543. |
2. | O Afonwen gellir ymuno â llwybr yr arfordir, naill ai draw am Bwllheli neu draw am Lanystumdwy. Am Lanystudwy mae’n dilyn y briffordd cyn troi oddi ar y briffordd drwy iard fferm Abercin a draw am aber yr Afon Dwyfor cyn dilyn y llwybr draw am Griceth uwchlaw y traeth. Cyf. Map. Dechrau 4337. |
3. | Gellir gwyro oddi ar lwybr yr arfordir yn Bont Fechan a dilyn llwybr Clawdd Llanw am aber yr Afon Dwyfor, ar draws yr afon i’r llwybr uchod. Ond bydd rhaid ichi ddilyn y llwybr yn ôl i Bont Fechan achos mae’n amhosibl croesi’r afon! Cyf. Map. 4638. |
4. | O bentref Llanystumdwy gallwch ddilyn y llwybr sy’n cychwyn ger bedd D Lloyd George ar hyd glan yr afon Dwyfor, drwy Goed Trefan i fyny at Bont Rhydybenllig. Mae’n llwybr poblogaidd sy’n gallu bod yn fwdlyd pan mae llif yn yr afon. Cyf. Map. 4738 – 4840. |
5. | Os ydi amser yn brin, beth am ddilyn y ffordd o bentref Llanystumdwy fyny heibio mynedfa bedd D Lloyd George ac yna troi i’r dde ym mhendraw y ffordd, heibio Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, dyma lle treuliodd Lloyd George ei flynyddoedd olaf, cyn dilyn y llwybr yn ôl i’r briffordd rhwng Llanystumdwy a Chricieth. Cyf. Map. 4738. |
6. | Os ydych wedi cael blas ar y cerdded, beth am ddilyn y briffordd am Gricieth, heibio rhes tai Caellobrith, ac yna pan ddewch at Lodge Ynysgain, croeswch y ffordd, cadwch i’r chwith a dilynwch lwybr Ynysgain Bach DAN y rheilffordd i blwyf Cricieth. Gallwch gario ymlaen, troi i’r chwith a dilyn llwybr Cynffon y Gath ddaw â chi i Gricieth, un ai yn ymuno â llwybr yr arfordir neu allan wrth gwt y Guides yn Muriau. Cyf. Map. 4838. |
Yn ogystal mae rhai llwybrau poblogaidd yn ardal Llangybi.
7. | Y llwybr i gopa Garn Bentyrch. Gallwch barcio naill ai ger arwydd Ffynnon Cybi neu ynghanol y pentref, rywle yng nghyffiniau’r eglwys a dilyn yr arwyddion am Ffynnon Cybi. Bydd byrddau dehongli newydd wedi’u gosod yma yn fuan. Ar ôl gweld y Ffynnon, ewch drwy’r giat a dilyn y llwybr swyddogol yn syth i fyny am gopa Garn Bentyrch. Ar ddiwrnod clir gallwch weld am filltiroedd draw am fynyddoedd yr Eifl, Eryri neu draw am arfordir Llŷn ac ar draws y môr am Harlech ac ymhellach. Cyf. Map. 4242. |
8. | Mae posib dilyn y llwybr yma nôl at y Ffynnon, a chadw i’r dde ymlaen am Bont y Merched ddaw â chi allan ger Ysgol Gynradd Llangybi. Cyf. Map. 4140. |
Yn yr adran yma
>> Ein Bro
>> Llwybrau
>> Diddordeb Hanesyddol