Diddordeb Hanesyddol
Cyngor Cymuned Llanystumdwy
1. Tŷ Canol Oesol Penarth Fawr ger Chwilog. Cyf. Map Arolwg Ordans 254.SH4137.
Neuadd-dŷ o’r 15fed ganrif gyda tho pren a nenfwd gyplog.. mwy o wybodaeth
2. Caer o’r Oes Haearn (Megalithic) ar gopa Garn Bentyrch ger pentref Llangybi. Cyf. Map A.O. 254SH4241.
3. Llwybr y Lôn Goed. Cyf.Map A.O.254SH Dechrau 4347 Diwedd 4543.
Ffordd goediog a adeiladwyd yn nechrau’r 18fed ganrif i gludo tywod a chalch a chysylltu ffermydd stâd gyfagos. Llwybr cerdded yn unig sydd yn ymestyn o Afonwen i ardal Bryncir.
4.Ffynnon Gybi ger pentref Llangybi. Cyf.Map A.O. SH4241.
Ffynnon sanctaidd a enwyd ar ôl Sant Cybi, wrth droed Garn Bentyrch. mwy o wybodaeth
5. Cromlechi yn ardal Rhoslan.
Cromlech Beudy Gromlech Cyf. Map. A.O. SH4840.
Cromlech Ystum Cegid Cyf. Map.O.A. 254.SH4941.
6. Capel y Beirdd, Ynys. Cyf. Map A.O. 254.SH4741.
Capel sydd yn gysylltiedig â dau fardd enwog o’r ardal sef Robert ap Gwilym Ddu, Betws Fawr (SH4639) a Dewi Wyn o Eifion, Gaerwen (SH4642).
7. Pentref Llanystumdwy. Cyf. Map A.O. 254.SH4738.
Amgueddfa David Lloyd George a chartref ei blentyndod yn Highgate.
Bedd Lloyd George uwchben yr Afon Dwyfor.
Capel Moreia – enghraifft o waith y pensaer enwog, Syr Clough Williams Ellis sydd hefyd wedi dylunio giatiau’r Amgueddfa.
Yn yr adran yma
>> Ein Bro
>> Llwybrau
>> Diddordeb Hanesyddol